Daeth neb yn ôl
A poem by Janet Dubé
Roedd pawb ar y traeth yn Aberdaugleddau
Yn oer ac yn wlyb yn y gwynt a'r glaw main
Fe lusgodd y llynges i ffwrdd fel cysgodion
A chefnfor mawr o'u blaen
Daeth neb yn ôl i adrodd y hanes
Neb ond y gwynt a ganodd y gân
Dim ond gwylanod a llygaid y gelyn
A welodd y morwyr yn llosgi mewn tân
Morgi o ddur yn cuddio mewn dyfnder
Ei arfau yn gas fel dant yn ei ben
Deffrodd o'i gwsg a chododd o'r gwaelod
I aros am aberth dan leuad y nen.
Yng nghanol y mor daeth taran a fflamau
Torpidos gwyllt yn rhuthro trwy'r dwr
A trist roedd y lladdfa gyffrous mewn tywyllwch
A trist roedd y byd mewn rhyfel a'u stwr
Rhy hwyr ger y harbwr mae'r mamau yn aros
Mae'r gwragedd yn aros heb wybod y gwir
Ond ymhell oddi yna dan môr y gorllewin
Gorweddant y meirw dan fedd gwyrdd y dwr
Amddifaid bychain ble gewch chi ddillad?
Ble yn y byd gewch chi arian i fyw?
O'r llywodraeth fe gewch geiniogau cysurus
I dalu am eich tadau sydd nawr gyda Duw.
Everyone was on the beach in Milford haven
Wet and cold in the wind a fine rain
The ships slipped away like shadows
The great sea before them
No-one came back
To tell the story
No-one but the wind to sing their song
Only gulls and the eye of the enemy
Saw the sailors burning in the fire
Iron shark hiding in the depths
Its arms cruel as teeth in it’s head
It woke from sleep and rose from the bottom
Waiting for a sacrifice under the heaven’s moon
In the middle of the sea came thunder and flames
Wild torpedoes rushing through the water
Sad the mad killing in the darkness
Sad the world in the noise of war
Too late at the harbour the mothers wait
Wives wait, not knowing the truth
But far from there in the western sea
Lie the dead beneath the green mead of the sea
Small orphans, where will you get clothes/
Where in the world will you get money to live?
From the government you’ll only get pennies for comfort
To pay for your fathers who are now with God
|